Mae Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, yn dweud ei fod am sicrhau bod holl wasanaethau trenau Cymru yn ddwyieithog “cyn gynted â phosib”.

Daw hyn yn dilyn adroddiadau bod yna broblemau gyda darpariaeth Gymraeg y gwasanaeth trenau newydd, sef Trafnidiaeth Cymru, sy’n cael ei lansio heddiw (dydd Llun, Hydref 15).

Mae’n debyg nad yw ap Cymraeg y gwasanaeth yn gweithio ac nad oes modd prynu tocynnau ar-lein trwy gyfrwng y Gymraeg.

“O’n i ddim yn gwybod ʾna, ond fe wnaf yn siŵr bod hynny’n newid cyn gynted â phosib,” meddai Carwyn Jones ar BBC Radio Cymru y bore yma.

“Mae’n hollbwysig, wrth gwrs, bod gyda ni wasanaeth dwyieithog, ac i glywed bod yr ap Cymraeg ddim ar gael ar hyn o bryd, wel mae hwnna’n gorfod cael ei ddatrys yn glou.”

“Siomedig”

Mewn llythyr at Trafnidiaeth Cymru, mae Aled Thomas, aelod o Gymdeithas yr Iaith, yn beirniadu’r cwmni am y diffyg Cymraeg, gan ddweud ei fod yn “siomedig” nad yw’r ap Cymraeg yn gweithio.

“Er fy mod i’n croesawu’r ffaith bod y gwasanaeth drenau newydd yma wedi lansio, nid yw’n argoeli’n dda nad oes sylw at y Gymraeg yn eich cynnyrch newydd,” meddai.

“Yn fy marn i, dylech chi fod yn rhoi’r un sylw tuag at y Gymraeg.”

‘Gwasanaeth trenau gorau’r Deyrnas Unedig’

Mae Trafnidiaeth Cymru, sy’n cael ei redeg mewn partneriaeth rhwng Llywodraeth Cymru a’r cwmni KeolisAmey, yn cael ei lansio yng ngorsaf drenau Pontypridd heddiw.

Daeth Trenau Arriva Cymru, sydd wedi bod yn gyfrifol am y gwasanaeth trenau yng Nghymru ers 2003, i ben dros y penwythnos.

Mae Llywodraeth Cymru yn gobeithio y bydd Trafnidiaeth Cymru yn sicrhau bod gan Gymru y “gwasanaeth rheilffyrdd gorau yn y Deyrnas Unedig erbyn 2033”.

“Mae hwn yn ddiwrnod pwysig i reilffyrdd yng Nghymru – yn wir ar gyfer datganoli,” meddai Carwyn Jones yn ystod y lansiad.

“Mae’r cyfle i ddatblygu system drafnidiaeth integredig sy’n annog twf economaidd ac sy’n cefnogi ein gwasanaethau cyhoeddus yn well ar draws pob plaid wleidyddol, a’r cyfle i ddatblygu systemau Metro yma yn ne-ddwyrain Cymru, yn y gogledd-ddwyrain a ger Bae Abertawe, yn tynnu sylw ledled y byd.”

Cynlluniau’r dyfodol

Mae Llywodraeth Cymru yn gobeithio buddsoddi £5bn yn Trafnidiaeth Cymru dros y 15 mlynedd nesaf, gyda’r arian hwnnw yn cael ei ddefnyddio ar gyfer cynlluniau sy’n cynnwys:

  • Buddsoddi £800m mewn trenau newydd, gan olygu y bydd 95% o deithwyr erbyn 2023 yn teithio ar drenau newydd sbon;
  • Buddsoddi £194m mewn gwella profiadau teithwyr mewn gorsafoedd ledled Cymru a’r Gororau;
  • Buddsoddi £738m mewn moderneiddio’r rheilffyrdd metro canolog;
  • Creu 600 o swydd a 450 o brentisiaethau newydd;
  • Cynnig tocynnau am ddim i blant dan 11 oed a thocynnau hanner pris i bobol ifanc rhwng 16 ac 18 oed.