Mae Heddlu’r De yn apelio am wybodaeth ar ôl i gar gael ei yrru am yn ôl i mewn i siop trin gwallt yn Abertawe nos Sadwrn.

Cafodd yr heddlu eu galw am 8.20 i siop Belle Vie ar Heol Graiglwyd yn ardal Y Cocyd y ddinas.

Yn ôl yr heddlu, gyrrodd y car i ffwrdd yn dilyn y digwyddiad, a hynny heb fod y sawl oedd yn gyfrifol wedi cael mynediad i’r siop.

Ni chafodd unrhyw un ei anafu, ond mae peth difrod i flaen yr adeilad.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â’r heddlu ar 101.