Fe fu farw dyn nos Sadwrn yn dilyn tirlithriad ar yr A484 yn Cwmduad yn Sir Gâr, wrth i Storm Callum achosi llifogydd drwy rannau helaeth o’r sir.

Mae nifer o ffyrdd a phontydd yn y sir ac yng Ngheredigion ynghau o hyd, meddai Heddlu Dyfed-Powys.

Mae teulu’r dyn wedi cael gwybod am ei farwolaeth.

Dywedodd yr heddlu nos Sadwrn na ddylai unrhyw un deithio oni bai bod gwir angen.

Yn ôl yr heddlu, mae disgwyl rhagor o law ddydd Sul, ond fe fydd lefel afonydd yn gostwng wrth i’r awdurdodau ddechrau cyfri’r gost.