Mae aelodau Yes Cymru wedi penderfynu cynnal ymgynghoriad ar rai elfennau o’r addasiadau sydd wedi’u hawgrymu ar gyfer cyfansoddiad y mudiad.

Dywedodd llefarydd ar ran y mudiad wrth golwg360 fod “elfennau brys ac annadleuol” o’r cyfansoddiad wedi’u derbyn heddiw yn ystod y cyfarfod cyffredinol blynyddol ym Mhorth Tywyn.

Ond “cytunwyd bod angen cyfnod o ymgynghori er mwyn i’r aelodaeth gael deall yn well pam bod angen newid y cyfansoddiad, ac iddyn nhw gael mwy o fewnbwn i unrhyw newidiadau”.

Cafodd y cyfarfod ei gynnal ychydig ddiwrnodau ar ôl iddi ddod i’r amlwg fod ffrae ymhlith aelodau’r pwyllgor canolog.