Osian Rhys o Bontypridd yw cadeirydd newydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg.

Ar hyn o bryd, mae’n is-gadeirydd ymgyrchoedd y mudiad, ac mae’n olynu Heledd Gwyndaf, sydd wedi bod yn y swydd ers dwy flynedd.

Cafodd y newyddion ei gadarnhau yn ystod eu cyfarfod cyffredinol ym Mlaenau Ffestiniog heddiw (dydd Sadwrn, Hydref 13).

Y cyfarfod

Hefyd yn ystod y cyfarfod, cafodd y ddogfen bolisi ‘Gwaith i Adfywio Iaith’ ei lansio.

Ac fe gafodd dau gynnig eu pasio.

Roedd y cyntaf yn galw ar Lywodraeth Cymru i neilltuo £10m ar gyfer prentisiaethau cyfrwng Cymraeg eleni, a’i gynyddu dros gyfnod o bedair blynedd i £20m.

Roedd yr ail gynnig yn nodi bod Cymdeithas yr Iaith “yn sefyll yn erbyn hiliaeth ac yn credu bod y frwydr dros y Gymraeg ynghlwm â’r frwydr dros gyfiawnder i bob grŵp sy’n profi gormes”.