Mae’r tywydd garw wedi effeithio’n sylweddol ar drenau Arriva ar eu diwrnod olaf yng Nghymru heddiw (dydd Sadwrn, Hydref 13).

Yng Nghymoedd y De, does dim trenau rhwng Abercynon ac Aberdâr, ond mae tocynnau’n cael eu derbyn ar wasanaeth bysus Stagecoach.

Does dim trenau ar Lein Calon Cymru rhwng Abertawe ac Amwythig am weddill y dydd oherwydd llifogydd, ac mae’r heddlu wedi cau nifer o ffyrdd. Mae rhybudd i deithwyr yn ardaloedd y gwasanaeth hwn i beidio â theithio.

Does dim trenau rhwng Machynlleth a’r Drenewydd ers 10 o’r gloch fore heddiw, a does dim disgwyl rhagor o deithiau tan ddydd Llun.

Doedd dim trenau ychwaith rhwng Abertawe a Chaerfyrddin rhwng 7 ac 11 fore heddiw, a bydd y gwasanaeth yn ailddechrau ar ôl 7 o’r gloch heno. Fe fydd rhai bysus ar gael.