Fe fydd Cymdeithas yr Iaith yn cyhoeddi cyfres o argymhellion mewn cyfarfod ym Mlaenau Ffestiniog heddiw (dydd Sadwrn, Hydref 13) er mwyn atal yr hyn maen nhw’n ei alw’n “argyfwng allfudo”.

Mae 117,000 o bobol rhwng 15 a 29 oed wedi gadael ardaloedd Ynys Môn, Gwynedd, Ceredigion a Chaerfyrddin dros y degawd diwethaf, meddai’r Gymdeithas. Mae hynny’n cyfateb i 55% o’r holl allfudiad ar gyfer pob oedran.

Yn ôl amcangyfrifon, mae Cymru’n colli tua 5,200 o Gymry Cymraeg bob blwyddyn drwy allfudo.

Er mwyn ceisio datrys y sefyllfa, mae Cymdeithas yr Iaith wedi cyhoeddi dwsin o argymhellion tuag at ddatblygu iaith a gwaith ym mhob rhan o Gymru.

Yr argymhellion

Mae argymhellion Cymdeithas yr Iaith i fynd i’r afael â’r sefyllfa’n cynnwys:

  • Sefydlu banciau lleol gyda chymorth cynghorau a’u hasedau pensiwn
  • Codi treth ar dwristiaeth i gynorthwyo ariannu mynediad cyflym i’r we i bob ardal o’r wlad
  • Sefydlu Menter Iaith a Gwaith Digidol newydd er mwyn normaleiddio’r Gymraeg ar-lein
  • Dileu ffioedd dysgu i’r rhai sy’n aros i astudio yng Nghymru
  • Datganoli cannoedd o swyddi allan o Gaerdydd
  • Sefydlu Cwmni Ynni Cenedlaethol
  • Mynnu bod pob bargen ddinesig yn clustnodi cyfran o’i chyllideb i brosiectau penodol a fydd yn normaleiddio ac yn cael eu cynnal yn uniaith Gymraeg
  • Sefydlu Colegau Hyfforddi ar gyfer gweithwyr iechyd a milfeddygon yn Aberystwyth a Bangor

Wrth siarad cyn lansiad y ddogfen bolisi ym Mlaenau Ffestiniog heddiw, dywedodd Jeff Smith, cadeirydd grŵp cymunedau cynaliadwy Cymdeithas yr Iaith fod “lefelau allfudo o Gymru yn argyfwng i’r iaith a’r economi”.

Ychwanegodd mai “dyna un o’r prif heriau i’r Gymraeg o ran niferoedd y siaradwyr”.

“Bydd yn anodd iawn cyrraedd targed y Llywodraeth o greu miliwn o siaradwyr Cymraeg fel arall.

“Rydyn ni wedi clywed geiriau gwag gan Lywodraeth Cymru am y materion hyn dro ar ôl tro, ond does bron dim gweithredu wedi bod.

“Mae cymunedau ble mae’r Gymraeg yn brif cyfrwng cyfathrebu yn ysgyfaint i’r iaith, a hynny ym mhob rhan o Gymru. Mae’n rhaid eu gwarchod a symud pob cymuned arall lan continwwm tuag at y ddelfryd honno.

“Allwn ni ddim fforddio colli’r cymunedau hollbwysig hyn. Dyna pam rydyn ni wedi cyhoeddi cyfres o bolisïau newydd heddiw sy’n cynnig ffordd ymlaen.”

Banciau lleol dan law’r cynghorau lleol

Wrth sôn am y cynnig i gynghorau sefydlu rhwydwaith o fanciau lleol, ychwanegodd Jeff Smith, “Wrth i ni drafod gyda’n haelodau ac arbenigwyr, mae mynediad at gyllid yn un peth pwysig sydd wedi ei godi. Yn yr Almaen, mae tua 70% o fancio yn cael ei wneud gan tua 1,700 o fanciau lleol cydweithredol a’r banciau cynilo Sparkassen, sy’n gweithredu er budd y cyhoedd, sydd o fantais sylweddol i’r “Mittelstand” – sef busnesau bach a chanolig. Mae Sparkassen yn dal tua thraean o asedau banciau’r wlad gyda thua 40% o holl arian cwsmeriaid.

“Rydyn ni’n credu y byddai sefydlu banciau lleol yng Nghymru yn rhoi hwb i’r economi leol drwy sicrhau bod mwy o arian yn cael ei fuddsoddi’n lleol.

“Yn ogystal, byddai’n gwella mynediad at gyllid i fusnesau a phrosiectau lleol.

“Mae cyfle gan gynghorau i arwain ar y gwaith hwn drwy ddefnyddio eu cronfeydd pensiwn, sy’n werth tua £15 biliwn, i gynorthwyo sefydlu banciau lleol, a fyddai’n llawer mwy gwydn a buddiol i’n heconomïau lleol.

“Dylai’r banciau lleol yma gael dyletswydd benodol i hybu gofodau a phrosiectau Cymraeg.”