Mae dwy chwaer o Geredigion wedi cael eu canmol ar y cyfryngau cymdeithasol ar ôl iddyn nhw roi eu tocyn sbâr ar gyfer gêm Cymru nos Iau (Hydref 11) i ddyn digartref.

Roedd Tirion a Cerian Davies o Bontrhydfendigaid ar eu ffordd i weld Cymru’n herio Sbaen yn y Stadiwm Genedlaethol yng Nghaerdydd pan ddaethon nhw ar draws y dyn ar y stryd.

Roedd gan y ddwy docyn sbâr i’w werthu, ond oherwydd eu bod nhw’n hwyr i’r gêm, fe benderfynon nhw ei roi am ddim i’r gŵr, a’i wahodd i ymuno â nhw yn y stadiwm.

“Roedd e [y dyn digartref] literally ddim yn hir y tu fas i’r stadiwm, ac roedd pawb yn pasio fe, druan,” meddai Tirion Davies, sy’n fyfyrwraig ym Mhrifysgol De Cymru, wrth golwg360.

“Fe wnaethon ni ofyn iddo fe oes oedd e moyn y tocyn sbâr, a sa i erioed wedi gweld rhywun mor hapus.

“Fe ethon ni ag e i mewn i’r stadiwm, ac roedd e’n dweud ei fod e ddim wedi gweld gêm ers yr 1980au, ac roedd e biti llefen ar un pwynt.

“Fe wnaeth e eistedd gyda ni drwy gydol y gêm, ac fe wnaethon ni ofyn iddo fe os oedd e moyn bwyd, ond roedd e’n pallu. Roedd e’n ddigon hapus yn ishte ʾna a gweld y gêm.”

“Bachan mor ffein”

Yn ystod y 90 munud o’r gêm, fe ddaeth y merched i wybod mai enw’r dyn oedd David, a’i fod yn dod yn wreiddiol o Bontypridd.

“Roedd e’n sôn am ei fywyd e, ac roedd e mor drist i glywed e,” meddai.

“Fe wnaeth e dyfu lan ym Mhontypridd a fi’n credu wnaeth e symud i Gaerdydd a dim cael swydd, ac achos bo dim swydd na theulu gydag e, mae’n ffeindio fe’n rili anodd i gael ei draed oddi tano.

“Ond roedd e’n ddyn hapus, ac yn fachan mor ffein. Roedd e mor neis i weld boi oedd mor hapus ac roedd e’n neis rhoi rhywbeth yn ôl iddo fe.”

Dyma fideo byr o ‘David’ yn cyrraedd y Stadiwm Genedlaethol nos Iau:

Posted by Tiz Davies on Thursday, 11 October 2018