Bydd gŵyl fwyd figan gynta’r gogledd yn cael ei chynnal yng Nghanolfan Chwaraeon Plas Coch yn Wrecsam ar Hydref 20.

Yn ôl y trefnwyr, mae disgwyl i’r ŵyl gynnwys dros 80 o stondinau, arddangosfeydd coginio gan gogyddion o ledled y byd, gwersi ioga a gweithgareddau ar gyfer plant.

Y nod yw annog pobol i “arbrofi ac agor eu llygaid i bosibiliadau newydd” meddau un o’r trefnwyr.

“Addysgu pobol”

“Mae cael gwared ar gig a chynnyrch llaeth o’ch deiet yn rhwyddach na beth rydych chi’n yn ei feddwl, ac mae mwy o bobol yn chwilio am ffyrdd eraill oherwydd eu bod nhw eisiau byw bywyd sy’n fwy iachus a moesol,” meddai llefarydd ar ran y trefnwyr, Vegan Events UK.

“Maen nhw’n awyddus i ddarganfod mwy am fwydydd a ryseitiau newydd ac arloesol sydd ar gael ar hyn o bryd, ac maen nhw am wneud hynny mewn modd fforddiadwy.

“Bydd ein gŵyl yn addysgu pobol sut i wneud hyn i gyd.”

Pris mynediad

Mae tocynnau ar gyfer y digwyddiad yn £3 ar gyfer oedolion ac am ddim ar gyfer plant o dan 16 oed, ond mae modd prynu tocyn arbennig am £15.

Bydd y tocyn hwnnw’n rhoi mynediad cyflymach i rai gweithgareddau, a bydd ei brynwyr hefyd yn derbyn bag arbennig llawn nwyddau.