Mae cynhyrchwyr y ddrama deledu ddrytaf erioed yn chwilio am ecstras ar gyfer gwaith ffilmio yng Nghaernarfon.

Mae cwmni Netflix yn gwario £10 miliwn ar bob pennod o gyfres The Crown, sy’n adrodd hanes teulu brenhinol Lloegr. Felly mae un gyfres o ddeg pennod yn costio £100 miliwn.

Ac ar gyfer y drydedd gyfres, mi fyddan nhw yn canolbwyntio ar y 1960au a chyfnod y Tywysog Charles yn dysgu siarad Cymraeg yn Aberystwyth a chael ei arwisgo yng Nghaernarfon.

Mae Left Bank Productions yn chwilio am ecstras i weithio yng Nghaernarfon rhwng 12-18 o Dachwedd, ac yn cynnig talu rhwng £110 a £175 y dydd am y gwaith, yn dibynnu ar yr oriau.

Cefndir

Drama deledu yn adrodd hanes bywyd a theyrnasiad y frenhines Elizabeth II yw The Crown a bydd y drydedd gyfres yn canolbwyntio ar y cyfnod 1963-1977.

Ac mae disgwyl y bydd rhywfaint o’r ddeialog yn y gyfres newydd yn yr iaith Gymraeg wrth i gyfnod y Tywysog Charles ym Mhrifysgol Aberystwyth ddiwedd y 1960au, a’r arwisgo yng Nghastell Caernarfon yn 1969 gael eu portreadu.