Mae cannoedd o gartrefi yng Nghymru heb bŵer yn dilyn noson o gawodydd trwm a gwyntoedd cryfion.

Yn ôl Western Power Distribution mae dros 500 o dai yn ardal Castell-nedd yn parhau heb bŵer, tra bod dros 200 o gartrefi yn Llandeilo, Sir Gâr, hefyd yn cael trafferthion.

Mae rhai hediadau o Faes Awyr Caerdydd wedi’u canslo oherwydd y tywydd, ac mae disgwyl oedi ar rwydwaith rheilffyrdd Cymru dydd Gwener (Hydref 10).

Bellach mae yna rybudd tywydd melyn mewn grym yng ngogledd Cymru, a rhybudd dwysach – rhybudd oren – mewn grym yn ne Cymru.

Yn ôl y Swyddfa Dywydd, mi allai rhwng 50mm a 150mm o law ddisgyn dros Gymru, a gallai hynny achosi llifogydd sy’n medru “peryglu bywydau”.

Storm Callum yw enw’r storm ddiweddaraf hon, ac mae’r cyhoedd wedi’u cynghori i gymryd gofal wrth deithio ar droed neu mewn cerbyd.

Dim ond ceir sy’n cael croesi Pont Britannia ar hyn o bryd oherwydd y gwyntoedd cryfion ac mae Ysgol Bryngwran ar Ynys Môn ynghau heddiw oherwydd diffyg cyflenwad trydan.