Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn cefnogi cynnig gan Lywodraeth Cymru i roi’r hawl i awdurdodau lleol godi treth ar dwristiaeth.

Mae’r mudiad iaith yn dweud y bydd treth o’r fath yn sicrhau bod cynghorau’n gallu buddsoddi mewn isadeiledd a fydd yn cryfhau’r economi Gymraeg.

Bydd prosiectau fel ailagor y llinell rhwng Aberystwyth a Chaerfyrddin, a gwella mynediad at y rhyngrwyd, yn elwa o’r dreth newydd hon, medden nhw wedyn.

‘Buddsoddi yn y gymuned leol’

“Os ydyn ni am leihau allfudo, mae’n rhaid galluogi cynghorau lleol i godi arian er mwyn buddsoddi yn eu hardaloedd, yn enwedig mewn oes o lymder,” meddai Jeff Smith o Gymdeithas yr Iaith.

“Mae Sefydliad Bevan wedi dadlau o blaid y dreth, ac mae Llywodraeth Cymru wedi cytuno i ddatblygu’r syniad ymhellach wedi ymgynghoriad yn 2017.

“Mae’r syniad hwn am dreth yn edrych i weld sut y gallai cyfraniad bach gan ymwelwyr helpu i gynnal gwasanaethau sy’n bwysig i ymwelwyr a’r gymuned leol.”

Daw’r alwad hon wrth i Gymdeithas yr Iaith gynnal ei Chyfarfod Cyffredinol yn Blaenau Ffestiniog yfory (dydd Sadwrn, Hydref 13), lle bydd y ddogfen bolisi, ‘Gwaith i Adfywio Iaith’, yn cael ei chyhoeddi.