Mae merch chwech oed sydd â pharlys ar yr ymennydd wedi llwyddo i ddringo’r mynydd uchaf yn ne Cymru – diolch i feic mynydd arbennig.

Roedd Imogen Ashwell-Lewis o Gil-y-coed yn dringo Pen-y-Fan ym Mannau Brycheiniog er mwyn codi ymwybyddiaeth am yr elusen Cerebra, sy’n gweithio gyda phlant sydd â chyflwr ar yr ymennydd a’u teuluoedd.

Fe lwyddodd y ferch fach i gwblhau’r daith gyda chymorth beic mynydd pedair olwyn sydd wedi cael ei greu gan Brosiect ENDURO, sef cydweithrediad rhwng arbenigwyr o brifysgolion a cholegau de Cymru.

Bu dros 40 o bobol yn cydgerdded â hi, a oedd yn cynnwys aelodau o staff y cwmni Specsavers, gweithwyr elusennol a milwyr, gyda phob un yn cymryd eu tro i dynnu’r beic i fyny’r mynydd.

“Mae ar ben ei digon”

“Mae Imogen mor falch ei bod hi wedi cwblhau’r daith,” meddai ei mam, Catherine Ashwell-Rice.

“Diolch i’r tîm yn Cerebra, mae wedi gallu ymgymryd â’r antur hon – dyw hi byth wedi gallu gwneud dim byd tebyg i hyn o’r blaen oherwydd ei pharlys ar yr ymennydd.

“Mae wedi methu â gwneud gweithgareddau corfforol droeon yn y gorffennol, sy’n gwneud iddi deimlo’n unig. Ond mae cael y cyfle i wneud hyn yn hwb enfawr i’w hyder – mae ar ben ei digon.”

Roedd y daith wedi’i threfnu gan Cerebra a changhennau o Specsavers yn ne a chanolbarth Cymru, wrth iddyn nhw gydweithio â’i gilydd yn ystod y flwyddyn.

Gwyliwch y fideo isod:

Imogen reaches the top of Pen y Fan

Imogen reached the top of Pen y Fan with the help of our Innovation Centre team, staff from Mid and South Wales Specsavers stores and a specially modified bike! Well done to everyone who took part!

Posted by Cerebra on Tuesday, 9 October 2018