Mae dynes wedi cael ei charcharu am bedair blynedd a hanner ar ôl iddi gnoi clust ei ffrind ymaith yn dilyn ffrae mewn siop cebab.

Fe ddigwyddodd yn Yummies Kebab House yng Nghasnewydd ar Ebrill 6.

Fe gafodd Victoria Burgess, 27, ei dal ar gamera ffôn symudol pan wnaeth hi ymosod ar ei ffrind, Jenna Edwards, cyn defnyddio’i cheg i niweidio’i chlust.

Mae’n debyg ei bod wedi cadw gafael ar y glust am 12 eiliad, cyn ei chnoi i ffwrdd.

Cafodd yr heddlu eu galw’n fuan wedi’r digwyddiad wrth i waed lifo o glwyf Jenna Edwards.

Roedd Victoria Burgess, sy’n gyn-weithiwr mewn siop bapurau newydd yng Nghasnewydd, wedi pledio’n euog o achosi niwed corfforol difrifol yn Llys y Goron y ddinas ddoe (dydd Mercher, Hydref 10).