Mae’r Gwasanaeth Llyfrgell yng Ngheredigion yn bwriadu cynnal “dathliad blynyddol” – sydd wedi’i anelu’n benodol at oedolion – er mwyn cofio am yr awdur a’r bardd, T Llew Jones.

Cafodd y Noson Goffa gyntaf ei chynnal yn Llyfrgell Aberystwyth neithiwr (Hydref 10), yng nghwmni’r Prifardd Ceri Wyn Jones ac actorion o Theatr Felin-fach.

Yn ôl Delyth Huws o’r Gwasanaeth Llyfrgell, mae Diwrnod T Llew Jones yn “boblogaidd iawn” mewn ysgolion ledled Cymru, ond mae angen digwyddiad ar gyfer yr oedolion hefyd, meddai wedyn.

“Beth am ei gyfraniad i oedolion? Sut ydym ni’n dathlu hynny?”

“Dyma ni fel Gwasanaeth Llyfrgell yn penderfynu mentro am y tro cyntaf eleni i drefnu digwyddiad sydd wedi’i anelu’n bennaf at y to hŷn i ddathlu ac i ganu clodydd T. Llew fel awdur.

“Y gobaith yw yn y dyfodol y bydd y noson yn datblygu i fod yn ddathliad blynyddol – nid yn unig o T Llew Jones a’i waith – ond o lenyddiaeth a diwylliant Cymru yn gyffredinol.”

T Llew Jones

Cafodd T Llew Jones ei eni ym Mhentre-cwrt yn Sir Gaerfyrddin, ond treuliodd y rhan fwyaf o’i oes yn byw yn ne Ceredigion, lle bu’n brifathro ar ysgolion Tre-groes a Choed-y-bryn.

Mae’n cael ei adnabod yn ‘Frenin Llenyddiaeth Plant’, ac yn ystod ei oes fe ysgrifennodd dros 50 o lyfrau ar gyfer plant ac oedolion.

Roedd hefyd yn brifardd a gipiodd Gadair yr Eisteddfod Genedlaethol ddwy flynedd yn olynol – y tro cyntaf yng Nglynebwy yn 1958 a’r eildro yng Nghaernarfon yn 1959.

Bu farw yn 93 oed yn 2009, ac mae ‘Diwrnod T Llew Jones’ yn cael ei gynnal yn flynyddol mewn ysgolion ledled Cymru o gwmpas dyddiad ei ben-blwydd, sef Hydref 11.