Mae cwmni sy’n ffilmio cyfres deledu hanesyddol yn Ynys Môn wedi penderfynu newid ei theitl gwaith yn dilyn pwysau gan ymgyrchwyr iaith.

Mae Wildflame Productions wrthi’n cynhyrchu rhaglen ar ran y BBC, a fydd yn rhoi cyfle i bedwar teulu fyw mewn cymuned bysgota ar droad yr ugeinfed ganrif.

Ynys Llanddwyn yw lleoliad y gyfres, a Cockle Bay oedd ei henw dros dro.

Ond mae Prif Weithredwr y cwmni teledu, Paul Islwyn Thomas, wedi anfon llythyr at fudiad Cylch yr Iaith yn cadarnhau mai ‘BBC Living History (Ynys Llanddwyn)’ fydd yr enw o hyn ymlaen.

“Yr ydym yn llwyr ddatrys y pwynt pwysig sy’n cael ei godi gan Cylch yr Iaith ac nid yw’r teitl bellach yn cael ei ddefnyddio mewn perthynas â’r gyfres o hyn ymlaen,” meddai Paul Islwyn Thomas yn ei lythyr.
“Rydym yn cyfeirio at y gyfres fel ‘BBC Living History (Ynys Llanddwyn)’.”

“Treftadaeth”

Pryder Cylch yr Iaith oedf y gallai’r enw ‘Cockle Bay’ “ddisodli” enw Cymraeg yr ynys.

“[Mae] cysylltiadau crefyddol a diwylliannol Ynys Llanddwyn a’r cyffiniau yn rhan bwysig o’r dreftadaeth genedlaethol Gymreig,” meddai Ieuan Wyn, ysgrifennydd Cylch yr Iaith.

“Ni ddylid, ar unrhyw gyfrif, beryglu’r defnydd o’r enwau lleoedd Cymraeg hanesyddol.”