Mae’r Aelod Cynulliad, Neil McEvoy, wedi galw’r nlaid Lafur yn “atgas” yn dilyn pleidlais tros ddympio mwd o orsaf bŵer yn nyfroedd de Cymru.

Cafodd y bleidlais ei vhynnal yn y Senedd ddoe (dydd Mercher, Hydref 10) yn sgil dadl danllyd ynglŷn â’r cynllun.

Bellach mae degau o filoedd o dunelli o fwd o orsaf bŵer Hinkley wedi eu harllwys i’r môr oddi ar Benrhyn Gŵyr, a nod y bleidlais oedd rhoi diwedd ar hynny.

Pleidleisiodd 22 o blaid cynnig gan Blaid Cymru a’r Ceidwadwyr i roi’r gorau i’r dympio, a phleidleisiodd 26 yn erbyn.

Er y gwrthwynebiad, mae Aelodau Cynulliad wedi cytuno bod angen gwneud rhagor i dawelu meddyliau’r cyhoedd ynghylch y mater.

Daw’r bleidlais yn sgil ymgais gan Neil McEvoy a’r cerddor o’r Supper Furry Animals, Cian Ciaran, i herio’r dympio yn gyfreithiol.  

“Siom”

“Dw i’n teimlo atgasedd at y Blaid Lafur [yn sgil y bleidlais],” meddai Neil McEvoy.

“Maen nhw wedi caniatáu i fwd o du allan i adweithydd niwclear yng Ngwlad yr Haf gael ei ddympio yng Nghymru heb brofion iawn.

“Roedd pobol yn gweiddi ‘siom’ atyn nhw wrth iddyn nhw adael y Cynulliad. Dw i’n cytuno â’r bobol hynny.”

Dyw’r profion sydd wedi’u cynnal ar y mwd ddim yn ddigonol, yn ôl ymgyrchwyr, a’u pryder nhw yw ei fod yn ymbelydrol ac yn peri niwed i’r cyhoedd.

Mae Llywodraeth Cymru a Chyfoeth Naturiol Cymru wedi wfftio’r pryderon hynny, gan fynnu bod y mwd yn ddiogel. Cafodd protest ei gynnal ddoe (Hydref 10) i gyd-daro â’r bleidlais.