Mae disgwyl i’r olaf o’r tri sy’n ymgeisio am arweinyddiaeth y Blaid Lafur yng Nghymru lansio ei hymgyrch heddiw (dydd Iau, Hydref 11).

Fe fydd Eluned Morgan yn amlinellu ei chynlluniau mewn digwyddiad yng Nghanolfan Valleys Kids yn Nhonypandy y prynhawn yma.

Mae’n gobeithio olynu Carwyn Jones yn arweinydd Llafur a Phrif Weinidog Cymru, wrth iddo roi’r gorau’r i’w swydd ar Ragfyr 11. Mae disgwyl i’w olynydd ddechrau ar y gwaith y diwrnod canlynol.

Bydd Eluned Morgan yn sôn am ei bwriad i adnewyddu Llafur Cymru, gan ddweud bod angen newid ar y blaid wedi 22 mlynedd yn llywodraethu.

Mae’n dweud ei bod wedi treulio’r haf yn gwrando ar aelodau Llafur a’r cyhoedd, gan fynd yn “fwriadol” y tu hwnt i Fae Caerdydd.

Mae hefyd yn disgrifio ei hun yn “sosialydd yr oes ddigidol”, ac mae’n gobeithio rhoi hyder i bobol Cymru yn wyneb heriau fel Brexit, newid yn yr hinsawdd, a phoblogaeth sy’n heneiddio.

Y ras

Fe lansiodd y ddau ymgeisydd arall, Vaughan Gething a Mark Drakeford, eu hymgyrchoedd ddechrau’r wythnos.

Bydd y bleidlais i ddewis arweinydd newydd yn cael ei chynnal ym mis Tachwedd.