Fe fydd ysgolion yng Ngheredigion yn cael eu defnyddio i dreialu trefn newydd o ddysgu, sy’n defnyddio cyswllt fideo a thechnoleg rhwng dosbarthiadau.

Fe fydd y cynllun newydd yn cael ei lansio yn Llanbedr Pont Steffan fory (dydd Iau, Hydref 10), ac mae golwg360 yn deall bod y cynllun arbrawf yn debyg i un a gafodd ei gyflwyno gan Lywodraeth yr Alban i ysgolion ar Ynysoedd Heledd yn 2016.

Yn rhan o’r cynllun ‘E-sgoil’ yn yr Alban, mae modd cysylltu dosbarthiadau mewn ysgolion gwahanol trwy gyfrwng technoleg, a’r nod yw darparu mwy o ddewis o ran pynciau i ddisgyblion, heb i’r athrawon fod ym mhob ysgol.

Yn yr Alban, mae’n ffordd hefyd o ehangu addysg trwy gyfrwng yr iaith Gaeleg.

Mae’n debyg mai Ceredigion fydd yr ardal gyntaf i dreialu cynllun o’r fath yng Nghymru.