Mae cyn-aelod o fudiad annibyniaeth Yes Cymru – sydd wedi’i wahardd yn ddiweddar – yn cyhuddo dwsin o bobol ar y pwyllgor canolog o “danseilio’r mudiad” cyfan.

Mae ffrae fawr wedi datblygu ar y cyfryngau cymdeithasol yn ystod y dyddiau diwethaf wrth i nifer o unigolion honni bod Pwyllgor Canolog Yes Cymru yn arwain “ymgyrch o wahardd aelodau”.

Mae lle i gredu bod bron dwsin o aelodau gwreiddiol y Pwyllgor Canolog a gafodd eu hethol yn ystod cyfarfod cyffredinol y mudiad y llynedd, bellach wedi gadael neu wedi’u gwahardd o Yes Cymru.

Er i golwg360 gysylltu â Yes Cymru ac aelodau unigol, mae pob un wedi gwrthod ymateb i’r ffrae nac ateb cwestiynau am sut y mae’r mudiad yn cael ei redeg.

Gwahardd aelodau

Yn ôl Talat Chaudhri, sydd ei hun yn gyn-aelod o’r Pwyllgor Canolog, yr aelodau sy’n dal i fod ar y pwyllgor yw Iestyn ap Rhobert, Rhidian Hughes, Gweirydd ap Gwyndaf, Moelwen Gwyndaf, Dilys Davies, Tricia Roberts a Leon Russel.

Ar y wefan gymdeithasol Twitter, dywed ei fod yntau wedi cael ei wahardd o’r pwyllgor a’r mudiad cenedlaethol yn “ddiweddar”.

Ond er iddo dderbyn ac ufuddhau i’r “gorchymyn i aros yn dawel” gan y pwyllgor canolog, meddai, mae’n teimlo na ddylai gael ei orfodi i wneud hynny gan na arwyddodd “yr un cytundeb cyfrinachedd” wrth ymaelodi â Yes Cymru.

Mewn neges arall, wedyn, mae’n galw ar Yes Cymru i ddychwelyd at fod yn “fudiad democrataidd sy’n cael ei arwain gan ei aelodau.”

Mae’n ychwanegu bod yr “ewyllys da” ymhlith aelodau ar lawr gwlad yn “anferthol”.

Ymateb Yes Cymru

Mewn ymateb, mae Yes Cymru yn dweud ar Twitter eu bod nhw wedi gwahardd Talat Chaudhri, ynghyd â gweddill swyddogion cangen Aberystwyth, yn dilyn honiadau eu bod wedi “torri rheolau’r côd ymddygiad a chamarwain y mudiad yn ehangach”.

Fe gafodd ymchwiliad ei gynnal ar y mater, medden nhw, ond methodd Talat Chaudhri ag ymateb pan gafodd gyfle i wneud hynny.