Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cynllun a fydd yn annog mwy o bobol i ddysgu a defnyddio sgiliau achub bywyd.

Bydd ‘Achub Bywydau Cymru’ yn cael ei ddatblygu dros gyfnod o ddwy flynedd, a’r nod yw gwella’r mynediad at hyfforddiant ar gyfer sgiliau sy’n cynnwys CPR a’r defnydd o ddiffibrilwyr.

Wrth i fwy o bobol ddysgu’r sgiliau wedyn, meddai Llywodraeth Cymru, fe fyddan nhw’n cael eu hannog i rannu eu gwybodaeth gydag eraill o fewn y gymdeithas.

“Adeiladu rhwydweithiau lleol”

“Bydd y prosiect Achub Bywydau Cymru yn mynd ati i dargedu ac i helpu grwpiau sydd eisoes yn addysgu sgiliau CPR yn eu cymunedau,” meddai Vaughan Gething, yr Ysgrifennydd Iechyd.

“Bydd yn eu helpu i adeiladu rhwydweithiau lleol, gan nodi cymunedau ledled Cymru sy’n cael llai o gyfleoedd i gael hyfforddiant mewn CPR, a’u helpu i rannu gwybodaeth a sgiliau.

“Bydd hyn yn cryfhau’r gadwyn oroesi a chadernid ein cymunedau lleol.”

Parhau â’r gwaith o hyfforddi

Mae £586,000 o gyllid wedi cael ei neilltuo i’r prosiect dros y ddwy flynedd gyntaf.

Mae’n adeiladu ar waith Gwasanaeth Ambiwlans Cymru a fu’n dysgu sgiliau CPR mewn ysgolion yn ystod mis Hydref y llynedd yn rhan o’r ymgyrchoedd ‘Shoctober’ a ‘Restart a Heart’.

Fe elwodd bron i 13,000 o blant ysgol yng Nghymru o’r ymgyrchoedd hyn, meddai Llywodraeth Cymru.