Mae’r Ysgrifennydd tros Faterion Gwledig yn y Cynulliad yn dweud nad yw hi am weld Jac yr Undeb yn cael ei ddefnyddio fel brand ar gynnyrch Cymreig yn y Sioe Fawr eto.

Daw hyn yn sgil beirniadaeth yn ystod y digwyddiad yn Llanelwedd eleni fod cynnyrch Cymreig yn y Neuadd Fwyd yn cael eu hysbysebu o dan frand a oedd yn cynnwys Jac yr Undeb, yn hytrach na’r Ddraig Goch arferol.

“Dydw i ddim eisiau gweld fflag Jac yr Undeb wedi’i thaenu dros y Neuadd Fwyd yn y Sioe Fawr,” meddai Lesley Griffiths. “Fyddech chi ddim yn gweld hynna’n digwydd yn Lloegr.

“Yn bersonol, dw i eisiau gweld y Ddraig Goch ar draws y Neuadd Fwyd… I fi, dyma ein siop fawr i’r byd, a dydyn ni ddim eisiau gweld Jac yr Undeb yno.”

Beirniadaeth

Roedd yr Ysgrifennydd yn siarad mewn cyfarfod yn y Cynulliad ddoe (dydd Llun, Hydref 8), lle derbyniodd feirniadaeth oddi wrth lefarydd y Ceidwadwyr Cymreig ar Faterion Gwledig, Andrew RT Davies.

Dywed ei bod yn “destun pryder” fod Llywodraeth Cymru yn awyddus i gael gwared ar fflag Jac yr Undeb oddi ar gynnyrch Cymreig.

Dylai’r Ddraig Goch a Jac yr Undeb ymddangos “ochr yn ochr â’i gilydd”, meddai wedyn.

“Byddech chi’n disgwyl syniadau tebyg i’r rhain oddi wrth genedlaetholwyr fel Plaid Cymru, ond nid o’r Blaid Lafur a oedd yn arfer bod yn falch o’r undeb,” meddai.

“Mae pobol yn gyfarwydd â gweld y fflag Gymreig a Jac yr Undeb ochr yn ochr â’i gilydd, ac fe ddylwn ni ddefnyddio cryfder a safonau’r ddwy er mwyn hybu buddiannau Cymru ymhellach.

“Dylai Prif Weinidog Cymru ddweud yn glir os yw ei lywodraeth bellach yn dilyn yr un agenda sydd yn fwy derbyniol gan Nicola Sturgeon a’r SNP yn yr Alban.”