Mae’r ddau a fu farw wedi Hanner Marathon Caerdydd dros y Sul wedi cael eu henwi.

Roedd Ben McDonald o Forgannwg yn 25 oed, tra bo Dean Fletcher o Gaerwysg yn 32 oed.

Fe ddioddefodd y ddau o ataliad ar y galon yn fuan wedi iddyn nhw gwblhau’r ras ddydd Sul (Hydref 9). Bu farw’r ddau ohonyn nhw ar ôl cael eu cludo i Ysbyty Athrofaol Caerdydd.

Mae trefnwyr y marathon, Run 4 Wales, wedi disgrifio’r digwyddiad yn “drasiedi” ac maen nhw’n dweud y byddan nhw’n adolygu trefniadau’r ras o ganlyniad.

Y ddau redwr

Roedd Ben Mcdonald yn gweithio yng Nghanolfan Dŵr Gwyn Rhyngwladol Caerdydd, ac roedd hefyd wedi’i hyfforddi’n athro. Dydd Sul oedd y tro cyntaf iddo redeg Hanner Marathon Caerdydd.

Roedd yn cydredeg gydag aelodau o’i deulu a oedd yn cynnwys ei gariad, ei frodyr a’i deulu yng nghyfraith.

Roedd Dean Fletcher ar y llaw arall yn cystadlu yn y ras am yr eildro. Roedd wedi bod yn fyfyriwr ym Mhrifysgol Caerdydd, ac roedd wedi dychwelyd i’w gartref yng Nghaerwysg i fod yn gyfrifydd.

 ‘Tristwch’

“Mae ein cydymdeimlad yn mynd at deuluoedd a ffrindiau’r ddau,” meddai Matt Newman, prif weithredwr Run 4 Wales.

“Fe wnaeth y tîm meddygol ymateb i’r sefyllfa arswydus hon gyda chyflymder a phroffesiynoldeb.

“Mae pob un sy’n gysylltiedig â’r digwyddiad wedi’u tristau. R’yn ni mewn cysylltiad agos â’r teuluoedd ac fe fyddwn ni’n parhau i’w cefnogi ym mhob ffordd y gallwn ni.

“R’yn ni’n gofyn i bobol barchu eu preifatrwydd yn ystod y cyfnod hwn.”