Mae dwy dref yng Nghymru ymhlith yr ardaloedd hynny yng ngwledydd Prydain sydd wedi gweld y cynnydd mwyaf yn lefel y methdalwyr yn ystod y pum mlynedd ddiwethaf.

Yn ôl y cyfrifwyr, UHY Hacker Young, mae Port Talbot a Thorfaen, ar y cyd â Stockton-on-Tees yn Lloegr, wedi gweld nifer y methdalwyr yn cynyddu o fwy na phum rhan yn ystod yr hanner degawd diwethaf.

Mae pob un o’r tri yn drefi sydd wedi cael eu taro gan yr argyfwng diweddar yn y diwydiant dur, ac mae hynny’n rheswm am y cynnydd, meddai’r cyfrifwyr.

Argyfwng y diwydiant dur

“Mae argyfwng y diwydiant dur wedi creu pocedi o dlodi mewn ardaloedd sy’n draddodiadol wedi bod yn or-ddibynnol ar y gweithfeydd dur ar gyfer cyflogaeth,” meddai llefarydd ar ran UHY Hacker Young.

“Mae yna effaith yn enwedig wedi bod mewn trefi dur bychain sy’n dibynnu ar y gweithfeydd ar gyfer gwaith.”