Mae’r awdurdodau yn Eryri am geisio datrys problemau parcio oherwydd y nifer fawr o geir sy’n cael eu parcio ar ochrau’r ffyrdd gan achosi rhwystr.

Mae’r trigolion yn mynnu bod rhaid gweithredu gan ddweud fod y broblem wedi gwaethygu dros yr 20 mlynedd ddiwethaf.

Rhai o’r mannau gwaethaf yw Nant Ffrancon sef ar hyd yr A5 rhwng Bethesda a Llyn Ogwen. Ar benwythnosau mae cerddwyr a dringwyr yn parcio ar ochr y ffordd, gan greu trafferth i eraill basio ei gilydd a phobl ar y ffordd.

Nawr mae Llywodraeth Cymru, sy’n gyfrifol am ffordd yr A5, yn dweud ei bod yn cynnal gwaith ymchwil i ddarganfod modd i wella’r sefyllfa.

Mae yna system barcio a theithio  ar gael yn Llanberis ble mae modurwyr yn parcio eu ceir mewn maes parcio penodol cyn cymryd bws i fyny i Ben-y-Pas.

Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri hefyd yn cydnabod fod yna broblemau gyda pharcio yn yr ardal.

Daeth galwadau yn y gorffennol ar i’r awdurdodau osod llinellau melyn dwbl ar hyd y ffyrdd yno.