Mae gweithiwr dyngarol o Bontypridd wrth galon y gwaith argyfwng yn Indonesia yn dilyn y daeargryn a’r tswnami a darodd yr ynys dros wythnos yn ôl.

Mae Tom Howells, 37 o Rydfelen, yn gweithio fel Cyfarwyddwr Gweithrediad Rhaglen Achub y Plant ac wedi ei leoli ar hyn o bryd yn Jakarta ble mae’r elusen a’i phartneriaid ar y Pwyllgor Argyfyngau Brys yn gweithio’n agos gyda’r awdurdodau yn Indonesia.

Mae 1,700 o bobl wedi eu cadarnhau yn farw ac ofnau bod 5,000 yn dal ar goll. Mae 1.5 miliwn o bobl wedi eu heffeithio ac mae 200,000 o bobl angen dŵr glân, bwyd, gofal iechyd a lloches ar frys, yn ôl Achub y Plant.

Mae tîm o staff, sy’n aelodau o bartner Achub y Plant yn Indonesia, Yayasan Sayangi Tunas Cilik (YSTC), yn Palu, prif ddinas canol Sulawesi a chanolbwynt yr argyfwng. Mae Achub y Plant wedi bod yn gweithio yn Indonesia ers 1976 ac mae hanes yr elusen yn ymateb i argyfyngau yn y wlad yn deillio yn ôl i’r tswnami a ddigwyddodd ar Ddydd San Steffan 2004 a’r daeargrynfeydd diweddar yn Lombok.

“Torcalonnus” 

“Mae’r dinistr a’r golled yn dorcalonnus ac mae’r dioddef ar raddfa sy’n anodd ei ddirnad. Bydd yn broses adferiad hir,” meddai Tom Howells.

“Mae Achub y Plant, drwy ei phartner YSTC, yn dosbarthu eitemau fel sebon, bwcedi, a chaniau jeri dros y dyddiau nesaf fel y gall teuluoedd ymolchi a storio dŵr, yn ogystal â chynfasau plastig a rhaffau ar gyfer adeiladu lloches dros-dro.

“Rydym yn amlwg yn poeni am les y plant ac mae nifer o adroddiadau o blant sydd wedi eu gwahanu o’u teuluoedd. Un o’r pethau yr ydym yn ei wneud yw sefydlu grwpiau chwarae fel mannau saff i blant chwarae ynddyn nhw tra bydd y panig a’r gwaith achub yn mynd ymlaen o’u cwmpas nhw.”

Codi arian

Mae Apêl Tswnami Indonesia DEC eisoes wedi codi £8 miliwn, gyda chyfraniadau gan y cyhoedd yn dal i gyrraedd.

Mae Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, wedi recordio neges yn annog y cyhoedd i gyfrannu ac mae ymdrechion ar draws Cymru eisoes i drefnu gweithgarwch codi arian ar gyfer yr apêl.

Er mwyn cyfrannu i DEC Cymru: Apêl Tswnami Indonesia ewch i www.dec.org.uk ffoniwch y llinell 24 awr ar 0370 60 60 900, cyfrannwch dros y cownter mewn unrhyw fanc ar y stryd fawr neu unrhyw swyddfa bost, neu trwy anfon siec.