Mae bachgen yn parhau mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty yn dilyn gwrthdrawiad difrifol rhwng dau feic modur wrth i geir gwblhau Rali GB Cymru yn Llandudno ddoe.

Cafodd Heddlu’r Gogledd eu galw i’r digwyddiad y tu allan i Westy’r St George yn Llandudno tua 11.31yb fore dydd Sul (7 Hydref).

Cafodd yr ambiwlans awyr ei alw i’r prom yn Llandudno yn dilyn y digwyddiad fore Sul. Roedd rhan o’r promenade wedi’i gau ar gyfer y rali ac roedd y beiciau modur yn rhan o’r arddangosfa feiciau.

Cafodd y bachgen ei gludo i ysbyty Alder Hey yn Lerpwl ac mae ei anafiadau yn cael eu disgrifio fel rhai sy’n bygwth ei fywyd.

Mae ymchwiliad i’r digwyddiad ar y gweill.

Cafodd cymal ola’r ras ei gwtogi o ganlyniad i’r digwyddiad.

Mae Heddlu’r Gogledd yn apelio am dystion  neu rhai sydd a deunydd fideo i gysylltu â nhw ar 101 gan nodi’r cyfeirnod W142976.