Mae dau feic modur wedi bod mewn gwrthdrawiad difrifol â’i gilydd wrth i geir gwblhau Rali GB Cymru yn Llandudno.

Cafodd yr ambiwlans awyr ei alw i’r prom yn Llandudno yn dilyn y digwyddiad fore heddiw am oddeutu 11.40yb.

Mae cymal ola’r ras wedi cael ei gwtogi o ganlyniad i’r digwyddiad.

Mae Heddlu’r Gogledd yn gofyn i dystion anfon deunydd fideo atyn nhw.