Bu’n rhaid i orsaf drenau Abertawe gau am gyfnod heddiw, wrth i heddlu arfog chwilio am ddyn sy’n cael ei amau o lofruddiaeth.

Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi cadarnhau bod y cyrch yn gysylltiedig â marwolaeth dyn ym Mhentywyn yr wythnos ddiwethaf.

Daw hyn yn dilyn adroddiadau bod Steve Baxter yn teithio ar drên.

Ond mae golwg360 yn deall na chafodd neb eu harestio.

Cefndir

Bu farw Simon Clark ym Mharc Carafanau Grove ym Mhentywyn ychydig dros wythnos yn ôl (dydd Iau, Medi 27).

Mae pedwar person eisoes wedi’u cyhuddo mewn cysylltiad â’i farwolaeth.

Mae tri eisoes wedi ymddangos gerbron Llys Ynadon Llanelli heddiw, sef  Jeffrey Stephen Ward, 40, sydd wedi’i gyhuddo o lofruddiaeth, yn ogystal â Linda Mary Rowley, 52, a Julie Louise Harris, 46, sydd wedi’u cyhuddo o gynorthwyo troseddwr.

Mae’r tri wedi cael eu cadw yn y ddalfa hyd nes y byddan nhw’n ymddangos gerbron Llys y Goron Abertawe ar Hydref 9.

Mae disgwyl i Kirston Macklin, 52, sydd hefyd wedi’i gyhuddo o gynorthwyo troseddwr, ymddangos gerbron Llys Ynadon Llanelli heddiw hefyd.

Mae’r heddlu’n dal i apelio am wybodaeth ynglŷn â Steve Baxter, sy’n cael ei ddisgrifio ganddyn nhw fel unigolyn “peryglus”.