Fe ddylai’r Iaith Arwyddion Prydain (BSL) gael ei chydnabod yn iaith gyntaf i nifer o blant byddar yng Nghymru, yn ôl un o bwyllgorau’r Cynulliad.

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi dod i’r casgliad hwn ar ôl ystyried deiseb gan ‘Deffro! Cymru’, sef fforwm ar gyfer pobol ifanc fyddar yng Nghymru.

Mae Iaith Arwyddion Prydain ar hyn o bryd yn cael ei hystyried yn iaith leiafrifol gan Lywodraeth Cymru, ond mae yna alw i sicrhau bod plant yn gallu dysgu’r iaith yn yr ysgolion.

Addysg

Yn ôl y Gymdeithas Genedlaethol i Blant Byddar, mae yna 2,642 o blant byddar yng Nghymru, tra bo ffigyrau Llywodraeth Cymru yn dangos bod 3,116 o ddisgyblion mewn ysgolion â nam ar eu clyw.

Yn dilyn adroddiad y Pwyllgor Deisebau, bydd Llywodraeth Cymru yn ystyried gwneud yr Iaith Arwyddion Prydain yn iaith gyntaf swyddogol.

Mae’r pwyllgor hefyd wedi galw ar y llywodraeth i gynnig cymhwyster TGAU ar gyfer yr iaith, yn ogystal â siarter genedlaethol a fydd yn sicrhau bod gwasanaethau ac adnoddau, gan gynnwys addysg, yn cael eu darparu i blant byddar a’u teuluoedd.

“Hanfodol

“Rydym ni’n credu ei bod yn hanfodol bod rhieni a theuluoedd plant sydd naill ai’n fyddar neu â nam ar eu clyw, yn cael y cyfle i ddysgu sut i gyfathrebu trwy gyfrwng yr Iaith Arwyddion Prydain,” meddai David Rowlands, cadeirydd y Pwyllgor Deisebau.

“Er ein bod yn cydnabod mai awdurdodau lleol a’r colegau addysg bellach sydd â’r hawl i bennu eu cyllid, rydym yn credu y gall Llywodraeth Cymru wneud mwy i arwain awdurdodau lleol i drin Iaith Arwyddion Prydain fel iaith sydd ei hangen, yn hytrach nag iaith sy’n ymateb i angen meddygol, a fydd yn helpu newid y sgwrs ynglŷn â darpariaeth addas.”