Fe allai corff ymbarel sy’n cynrychioli Clybiau Ffermwyr Ifanc yng Nghymru a Lloegr, chwalu, wrth i un o siroedd gogledd Lloegr alw am gynnal pleidlais o ddiffyg hyder yn y bwrdd rheoli.

Ar hyn o bryd, mae deg allan o 12 siroedd Clybiau Ffermwyr Ifanc Cymru yn aelodau o’r Ffederasiwn Cenedlaethol (NFYFC) – dim ond Eryri ac Ynys Môn sydd eisoes wedi torri’n rhydd.

Mae aelodau o’r mudiad yn Swydd Efrog bleidleisio o blaid cynnig pleidlais o’r fath yng nghyfarfod cyngor yr aelodau a fydd yn cael ei gynnal ddiwedd y mis.

Yn ôl y cylchgrawn, Farmers Weekly, mae’r anniddigrwydd hwn yn deillio o benderfyniad Ffederasiwn Cenedlaethol yr NFYFC i beidio â chynnal penwythnos Cyfarfod Cyffredinol eto. Mae rhai eisoes wedi galw’r penderfyniad yn “gam enfawr”, ac mae peryg y bydd y corff ‘cenedlaethol’ yn colli £200,000 o incwm.

Anniddigrwydd

Bydd y cynnig o ddiffyg hyder yn cael ei gyflwyno yn ystod cyfarfod cyngor yr aelodau ymhen pythefnos (dydd Sul, Hydref 21), pryd y bydd cynrychiolwyr o holl ffederasiynau’r mudiad yng Nghymru a Lloegr yn cwrdd.

Pe bai’r cynnig yn cael ei dderbyn, a mwyafrif o aelodau’n datgan diffyg hyder, mae’n bosib y bydd yn rhaid i aelodau o’r bwrdd rheoli gamu o’r neilltu – gyda bwrdd arall yn cymryd ei le.

“Os yw Ffederasiwn Sirol yn dymuno cynnig pleidlais o ddiffyg hyder ym Mwrdd Rheoli’r NFYFC, fe fydd y cynnig yn cael ei gyflwyno i gyfarfod Cyngor yr NFYFC ym mis Hydref,” meddai llefarydd ar ran yr NFYFC wrth golwg360

“Fe fydd unrhyw benderfyniadau yn cael eu gwneud gan aelodau’r Cyngor yn ystod y cyfarfod hwnnw,” meddai llefarydd ar ran y corff cenedlaethol.”

Aelodau

Mae gan Ffederasiwn Cenedlaethol y Ffermwyr Ifanc gyfanswm o 24,587 o aelodau, gyda 5,188 o’r rheiny yng Nghymru.

Mae yna 14 o ffederasiynau sirol yng Nghymru, ond mae dau ohonyn nhw – Eryri ac Ynys Môn – wedi bod yn annibynnol o’r corff sy’n cynrychioli Cymru a Lloegr ers rhai blynyddoedd bellach.

Mae’r rheiny sy’n parhau’n aelodau o’r corff yn gallu cystadlu a mynychu gweithgareddau ar lefel Cymru a Lloegr.

Mae’r 12 ffederasiwn yng Nghymru hefyd yn rhan o Glybiau Ffermwyr Ifanc Cymru.