Fe fydd un o gyfresi teledu druta’r byd, sy’n adrodd hanes bywyd a theyrnasiad y frenhines Elizabeth II, yn cynnwys peth deialog yn Gymraeg.

Mae golwg360 yn deall bod trydedd gyfres The Crown – sydd wrthi’n cael ei ffilmio ar hyn o bryd – yn defnyddio’r iaith wrth ganolbwyntio ar gyfnod cythryblus 1963-1977. Mae’r blynyddoedd yn cynnwys cyfnod Tywysog Charles yn Mhrifysgol Aberystwyth ddiwedd y 1960au, cyn cael ei arwisgo yn Dywysog Cymru yng Nghastell Caernarfon yn 1969.

A dyna pam y bydd rhannau o’r sgript yn Gymraeg, ac y bydd tiwtor iaith y Prins yn y Coleg Ger y Li, yn cael tipyn o ran. Roedd y darlithydd, E G Millward (neu Tedi Millward) yn un o hoelion wyth Plaid Cymru a fu’n dysgu’r tywysog ifanc i ddweud ychydig eiriau yn yr heniaith, ac i’w gael i ddarllen ychydig o gerddi Dafydd ap Gwilym.

Mae lle i greu mai’r Cymro, Mark Lewis Jones, fydd yn portreadu Tedi Millward, ond mae golwg360 wedi methu hyd yn hyn â chysylltu â’r actor i gadarnhau hynny.

Ond mae llefarydd ar ran CADW – asiantaeth Llywodraeth Cymru sy’n gofalu am henebion – wedi cadarnhau eu bod nhw “mewn trafodaethau” gyda chwmni Left Bank Productions ynglyn â defnyddio Castell Caernarfon fel un o’r lleoliadau.

Y Gymraeg ar Netflix

“Wnes i glywed bod chydig o Gymraeg yn mynd i fod ynddo fo,” meddai Tudor Owen, Dirprwy Faer Caernarfon.

“Yn 1969, roedd pobol wedi leinio’r strydoedd i gyd… o’n i’n sefyll ar silff ffenast tu allan i’r Harp Inn, ac oeddach chi’n gweld y ceffylau yma’n pasio a Charles a’r Frenhines yn dod heibio yn y carriages… oedd yna lot o wrthwynebiad hefyd…

“Mi wneith o [y ffilmio] ddod â budd i Gaernarfon, i fusnesau ac i bobol y dre, a dw i’n gefnogol iawn ohono fo,”