Mae math o löyn byw sydd gyda’r prinnaf yn Ewrop wedi cael ei ddarganfod yn Sir Gaerfyrddin, a hynny am y tro cynta’ ers hanner canrif.

Mae lindys o’r enw Britheg y Gors (y Marsh Fritillary) wedi eu cofnodi am y tro cyntaf ers yr 1960au mewn gwarchodfa natur yn Cross Hands.

Mae’r math hwn o bili pala wedi profi dirywiad o 71% yng Nghymru yn ystod y 30 mlynedd diwethaf, ond diolch i ymdrechion i’w warchod a’r tywydd poeth diweddar, mae wedi ymledu i ardaloedd newydd, meddai arbenigwyr.

Prin

Y lleoedd mwyaf cyffredin i ddod o hyd i Britheg y Gors yw gogledd-orllewin a de-orllewin Cymru, yn ogystal â rhannau o Iwerddon, gorllewin yr Alban a de-orllewin Lloegr.

Mae adenydd y glöyn wedi’u lliwio tipyn yn fwy melyn, oren a brown na mathau eraill, ac maen nhw’n tueddu i gael eu gweld ddiwedd yr haf.

Mae Gwarchodfa Natur Fferm Median, lle cafodd y lindys prin eu gweld, yn eiddo i Gyfoeth Naturiol Cymru. Dros y pum mlynedd diwethaf, mae gwaith adfer tiroedd wedi cael ei gynnal ar y safle, gyda help gwirfoddolwyr.