Mae’r heddlu’n dal i chwilio am ddyn sy’n cael ei amau o lofruddio dyn arall mewn maes carafanau ym Mhentywyn bron i wythnos yn ôl.

Bu farw Simon Clark ym Mharc Carafanau Grove yn y pentref glan môr ddydd Gwener diwethaf (Medi 28).

Mae Heddlu Dyfed-Powys yn chwilio am Simon Baxter, 52, sydd hefyd yn cael ei adnabod yn ôl yr enwau Steve Rowley, Wayne Tidy a William Tidy.

Yn rhan o’r ymchwiliad, maen nhw wedi bod yn gwneud ymholiadau ac archwilio tai yn ardaloedd Castell-nedd a’r Tyllgoed yng Nghaerdydd.

Hyd yn hyn, mae tri o bobol yn y ddalfa mewn cysylltiad â’r farwolaeth.

Mae dyn 40 oed yn cael ei amau o lofruddio, tra bo dwy ddynes, 52 a 46 oed, yn cael eu hamau o gynorthwyo troseddwr.