Mae’n bwysig bod “gwerthoedd creiddiol” Plaid Cymru yn parhau dan arweinyddiaeth Adam Price, yn ôl Aelod Cynulliad a aeth benben ag ef am y brif swydd.

Mae Rhun ap Iorwerth yn dweud ei fod yn ffyddiog y bydd y blaid yn gallu sicrhau undod wrth i Leanne Wood gamu o’r neilltu, ac wrth i Aelod Cynulliad Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr ddod i rym.

Ac mae’n dweud mai rôl Plaid Cymru yw gweithio “fel un uned gref”.

Felly wrth edrych at y dyfodol, mae Aelod Cynulliad Ynys Môn yn gobeithio y bydd ei gyd-aelodau yn bwrw ati i “rowlio eu llewys i fyny”, gan gofio mai “Cymru sy’n bwysig”.

“Beth sy’n bwysig i fi ydi bod gwerthoedd cwbwl greiddiol yn parhau, pwy bynnag ydi’r arweinydd – pe bawn i, neu Adam, neu Leanne wedi ennill,” meddai wrth golwg360.

“Mi fydda’ i yn chwarae fy rhan. Ond dydi’r gwaith canolog hwnnw, gan Blaid Cymru, ddim wedi newid.”