Mae Llywodraeth Cymru yn addo gwario £500m yn rhagor ar iechyd yn ystod y flwyddyn nesa’.
Ond, wrth gyhoeddi’r gyllideb ddrafft heddiw (dydd Mawrth, Hydref 2), mae’r Ysgrifennydd Cyllid, Mark Drakeford, yn gorfod cydnabod y bydd awdurdodau lleol yn wynebu mwy o doriadau.
Daw’r toriad er bod arweinwyr cynghorau wedi rhybuddio bod gwasanaethau allweddol – gan gynnwys gofal cymdeithasol ac addysg – dan straen eisoes.
Gan mai fersiwn drafft yw’r gyllideb, fydd fersiwn manylach o’r gyllideb £17bn ddim ar gael tan y mis nesaf.
Dim eithriad
“Mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud popeth y gallan nhw i amddiffyn gwasanaethau rheng flaen rhag effeithiau gwaethaf cyni,” meddai Mark Drakeford.
“A byddan nhw’n parhau i wneud hynny. Dyw’r gyllideb ddrafft yma ddim yn eithriad i hynny.”
Mae tua 80% o gyllid Llywodraeth Cymru yn dod o grant bloc gan San Steffan.
O ganlyniad i doriadau gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig, bydd cyllideb y flwyddyn nesaf 5% yn llai, mewn gwirionedd, nag oedd ddegawd yn ôl.
Trethi
Am y tro cyntaf erioed, bydd 12% o’r gyllideb yn deillio o drethi incwm sydd wedi’u casglu yng Nghymru.
Wrth siarad yn y Senedd, dywedodd Mark Drakeford na fyddai newidiadau i’r dreth incwm, treth ar brynu eiddo, a’r dreth trafodiadau tir.