Bydd y tollau sy’n eu rhaid talu er mwyn croesi Pont Hafren o gyfeiriad Lloegr yn dod i ben cyn y Nadolig.

Mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Alun Cairns, wedi cyhoeddi yng Nghynhadledd y Blaid Geidwadol yn Birmingham heddiw (dydd Mawrth, Hydref 2) y bydd y tollau’n cael eu diddymu ar Ragfyr 17, yn hytrach na dydd Calan.

Fe gafodd y tollau eu cyflwyno ar yr hen Bont Hafren yn 1966, ac fe gawson nhw eu cyflwyno ar yr ail bont – sydd bellach yn Bont Tywysog Cymru – pan gafodd honno ei hagor yn 1996.

Mae Alun Cairns yn dweud y bydd diddymu’r tollau yn cyfrannu £100m y flwyddyn i Gymru, a thros filiwn o bunnoedd yn ystod y degawd nesaf.

“Anrheg Nadolig cynnar”

“Fy mhrif flaenoriaeth pan ddois i’n Ysgrifennydd Gwladol Cymru oedd diddymu’r tollau sydd ers hanner canrif wedi bod yn atal ac yn ymyrryd â thyfiant a chysylltiadau economi Cymru,” meddai Alun Cairns.

“Bydd diddymu’r tollau’n anrheg Nadolig cynnar ar gyfer y teithwyr gweithgar hynny a fydd £1,400 y flwyddyn yn well.

“Dim ond y dechrau yw hwn i’m cynllun i sicrhau tyfiant ar gyfer Cymru sy’n gryfach ac yn fwy cysylltiedig.”