Fe ddylai Prif Weinidog newydd Cymru alw etholiad Cynulliad cynnar, yn ôl arweinydd grŵp y Ceidwadwyr yng Nghymru.

Mae disgwyl i Paul Davies alw am etholiad cynnar yng Nghynhadledd y Blaid Geidwadol yn Birmingham heddiw (dydd Llun, Hydref 1).

Erbyn diwedd yr hydref, fe fydd gan bob un blaid yn y Cynulliad arweinydd gwahanol i’r hyn a oedd ganddyn nhw yn yr etholiad blaenorol yn 2016.

Er mwyn sicrhau “mandad” felly, mae angen i’r Prif Weinidog a fydd yn olynu Carwyn Jones alw am etholiad cynnar, meddai Paul Davies.

‘Dim etholiad, dim mandad’

“Pwy bynnag sy’n dod yn Brif Weinidog newydd, mae hyn yn glir,” meddai Paul Davies. “Fe ddylai’r bobol gael y cyfle i ddweud eu dweud.

“Fydd gennych chi ddim mandad i lywodraethu pobol Cymru. Dim ond etholiad yn y Cynulliad all wneud hynny.

“Felly dw i’n galw ar ddarpar arweinwyr Llafur Cymru i ymrwymo i’r angen am etholiad.

“Rydym ni, y Ceidwadwyr Cymreig, yn barod i ymladd ar gyfer dyfodol ein cenedl werthfawr.”