Mae datganoli’r pwerau dros gyflogau ac amodau athrawon o San Steffan i Gymru’n “foment hanesyddol”, yn ôl Ysgrifennydd Addysg Llywodraeth Cymru, Kirsty Williams.

Ar y diwrnod y daeth y pwerau newydd i rym, ategodd Kirsty Williams ei hymrwymiad i sefydlu model cenedlaethol i athrawon ac ymarferwyr addysg er mwyn creu system deg i bawb.

Bydd y model newydd yn gosod cyflogau ac amodau athrawon yng Nghymru, gan dynnu cyflogwyr, undebau athrawon a Llywodraeth Cymru ynghyd bob blwyddyn ar gyfer Fforwm Partneriaeth.

Fe fydd y fforwm yn cynnig newidiadau i gyflogau ac amodau athrawon cyn i Weinidogion Llywodraeth Cymru eu cyflwyno i gorff annibynnol graffu arnyn nhw a’u cymeradwyo.

‘Cyfle gwych i ddyrchafu statws addysgu yng Nghymru’

Dywedodd yr Ysgrifennydd Addysg, Kirsty Williams, “Dyma foment hanesyddol i Gymru. Am y tro cyntaf erioed, byddwn, o fewn Llywodraeth Cymru, yn gallu penderfynu ar gyflog ac amodau athrawon. Mae hyn yn gyfle gwych inni ddatblygu a dyrchafu statws y proffesiwn addysgu yng Nghymru.

“Bydd y model cenedlaethol newydd yn annog cydweithio, gan ddod â’r undebau, cyflogwyr a Llywodraeth Cymru ynghyd i ddod o hyd i ffordd ymlaen sy’n deg, ymarferol a chynaliadwy. Mantais arall y model yw y bydd penderfyniadau’n cael eu gwneud ar sail cyngor ac adolygiad gan gorff arbenigol annibynnol.

“Proses barhaus, dros gyfnod, fydd y gwaith o roi’r model ar waith; rhaid rhoi ystyriaeth i rai o’r manylion i sicrhau y caiff y model ei weithredu’n deg a’i fod yn addas at y diben. Y diben hwnnw, wrth gwrs, yw cefnogi athrawon i’r carn.”