Mae Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, wedi cyhuddo Theresa May o “gamarwain y cyhoedd” ynglŷn â Brexit.

Daw’r rhybudd hwn i Brif Weinidog Prydain chwe mis union cyn i’r Deyrnas Unedig adael yr Undeb Ewropeaidd.

Mae Carwyn Jones yn dweud bod honiad Theresa May mai dim ond cytundeb Chequers neu ddim cytundeb o gwbl sydd ar y bwrdd gyda’r Undeb Ewropeaidd, yn “anwiredd llwyr”.

“Mae’n hollol anghyfrifol gorfodi pobl i ddewis rhwng Brexit caled trychinebus a sefyllfa gwbl gatastroffig o fod heb gytundeb,” meddai.

“Drwy fynnu bod rhaid i’r wlad ddewis un o ddwy sefyllfa wael, mae’n codi tensiynau ac achosi dryswch ar adeg pan fo angen meddwl clir a siarad yn synhwyrol.”

Dewis arall

Yn ôl Carwyn Jones, mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi cyhoeddi cynllun sy’n nodi’r hyn a fydd o’r budd mwyaf i Gymru wrth i Brexit fynd rhagddo.

Mae’r cynllun ‘Diogelu Dyfodol Cymru’, a gafodd ei gyhoeddi fis Ionawr y llynedd, yn galw am aros yn rhan o’r Farchnad Sengl a’r undeb tollau.

“Yr unig ffordd o ddiogelu swyddi ac economi Cymru yw drwy sicrhau mynediad llawn a dirwystr at y Farchnad Sengl a chytuno ar undeb tollau,” meddai.

“Byddai Brexit heb gytundeb yn golygu bod y Deyrnas Unedig yn dlotach, wedi’i hynysu yn rhyngwladol, a hyd yn oed yn fwy rhanedig adref.

“Byddai’n amharu’n sylweddol ar sawl maes ac yn achosi niwed difrifol i bob rhan o’r Deyrnas Unedig.

“Gyda dim ond chwe mis i fynd, rhaid i Brif Weinidog y Deyrnas Unedig roi buddiannau’r wlad o flaen buddiannau ei plaid, a gweithio gyda’r Undeb Ewropeaidd i ddod i gytundeb sy’n diogelu ffyniant a llesiant pobl ar draws y Deyrnas Unedig.”

Y disgwyl yw y bydd y Deyrnas Unedig yn gadael yr Undeb Ewropeaidd ar Fawrth 29.