Mae un o gefnogwyr Leanne Wood yn dweud ei bod yn “siom” bod y cyn-arweinydd wedi dod yn olaf yn y ras.

Adam Price yw arweinydd newydd Plaid Cymru, ar ôl iddo sicrhau buddugoliaeth glir.

Bu rhaid i Leanne Wood gamu o’r neilltu yn dilyn y rownd gyntaf, wedi iddi orffen yn drydydd gyda 1,286 (22.3%) o’r bleidlais,  o gymharu â’r 1,613 (28%) a sicrhaodd Rhun ap Iorwerth – a ddaeth yn ail – a’r 2,863 (49.7%) gafodd Adam Price.

“Mae’n drist”

Yn ôl Elin T Jones, cyd-gadeirydd y grŵp Merched Plaid a chadeirydd cangen Plaid Cymru yn Llanbedr Pont Steffan, mae’n “drist” bod Leanne Wood wedi dod yn drydydd yn dilyn chwe mlynedd o fod wrth y llyw.

“Dw i ddim yn meddwl ei fod yn creu argraff glir o beth mae hi wedi ei wneud dros y Blaid yn ystod y blynyddoedd,” meddai Elin T Jones wrth golwg360.

“Mae hi’n gweithio’n galed trwy’r amser [dros y Blaid], a dw i ddim yn meddwl bod y fenyw wedi cael diolch.

“Mae hi wedi creu proffil mor gryf i’r Blaid. Mae pobol yn gwybod pwy ydym ni nawr; maen nhw’n nabod logo’r blaid, ac mae hwnna’n beth mor gryf i gario ymlaen gydag e.”

Arweinydd hoyw – “enfawr”

Wrth edrych tua’r dyfodol, dyw Elin T Jones ddim yn siŵr a fydd Adam Price yn llwyddo i uno’r gwahanol garfannau o fewn Plaid Cymru, ond mae’n “edrych ymlaen” at gydweithio gydag ef.

“O gael arweinydd sy’n openly gay, yn ei eiriau ei hun, mae hwnna’n rhywbeth enfawr.

“Eto, mae Plaid Cymru’n bod yn progressive yn beth maen nhw’n eu gwneud.

“Dw i’n gobeithio y bydd y dyfodol yn dda.”