Dylid gosod isafswm pris o 50c am bob uned o alcohol sy’n cael ei werthu yng Nghymru, yn ôl yr Ysgrifennydd Iechyd.

Bellach mae Cynulliad Cymru wedi meddu ar y pŵer i osod ‘isafbris’ ar unedau alcohol, a dydd Gwener (Medi 28) mi fyddan nhw’n lansio ymgynghoriad ar y mater.

Mae disgwyl i’r drefn newydd ddod i rym yn haf 2019, gyda Vaughan Gething yn dweud ei fod yn “ffafrio gosod lefel gychwynnol yr isafbris uned ar 50c”.

“Mae’r [cam] yn cael ei hanelu at ddiogelu iechyd yfwyr peryglus a niweidiol … sy’n dueddol o yfed symiau uwch o gynhyrchion rhad sy’n cynnwys lefelau alcohol uchel,” meddai.

“Byddai gosod lefel uchel o isafbris uned yn effeithio ar gyfran uwch o’r alcohol sy’n cael ei brynu ac yn cael mwy o effaith ar niwed sy’n gysylltiedig ag alcohol.”

Manylion

Cafodd ‘Deddf Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru) 2018’ ei basio gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ym mis Mehefin 2018, a derbyniodd Gydsyniad Brenhinol ym mis Awst 2018.

Mae’r ddeddf yn caniatáu i Weinidogion Cymru gyflwyno isafbris uned am alcohol sy’n cael ei gyflenwi yng Nghymru, a’n ei gwneud hi’n drosedd i werthu alcohol islaw’r pris hwnnw.

Yn ôl dadansoddiad diweddar gan Brifysgol Sheffield byddai isafbris uned o 50 ceiniog yn arwain at 8.5% yn llai o farwolaethau alcohol y flwyddyn.