Mae bwriad i droi adeilad yr hen Co-op yn Aberteifi yn ganolfan Gristnogol a fydd yn cynnwys sinema a banc bwyd.
Fe adawodd The Co-operative y safle yn Stryd y Cei yn 2016, ac yn dilyn cyfnod byr o fod yng ngofal yr archfarchnad fwyd, Budgens, mae’r adeilad wedi bod yn wag ers y llynedd.
Ond bellach mae’r eiddo, a fu’n berchen i Sneh Patel o gwmni Sabretown Properties Limited am dros 30 mlynedd, wedi cael ei brynu am £700,000 gan elusen Gristnogol o ganolbarth Lloegr.
Nod yr elusen honno, sef The Cornerstone Works, yw llogi’r adeilad i’r Ganolfan New Life Christian, sydd eisoes â phresenoldeb yn y dref, nid nepell o’r adeilad.
Bydd gwaith adnewyddu’n cael ei wneud ar yr adeilad, cyn y bydd banc bwyd a sinema yn cael ei darparu ar gyfer y gymuned.