Mae Cymru ymhlith y gwledydd hynny yn Ewrop lle mae yfed ymhlith pobol ifanc wedi gostwng mwyaf rhwng 2002 a 2014.

Yn ôl yr adroddiad gan Sefydliad Iechyd y Byd (WHO), mae Cymru wedi gweld yr ail ostyngiad mwyaf yn nifer y bechgyn 15 oed sy’n yfed alcohol yn wythnosol, gyda’r ffigwr yn 11.8% yn 2014 o gymharu â 47.6% yn 2002.

O ran merched ifanc wedyn, gwelwyd cwymp o 31.2% yn 2002 i 10.3% yn 2014.

Dywed yr adroddiad fod yna ostyngiad wedi bod ledled gwledydd Ewrop.

Ond er bod yr elusen Addaction yn croesawu’r adroddiad, maen nhw’n dweud bod pethau fel iechyd meddwl gwael, hunan-niweidio a chyffuriau yn dod yn fwy o broblem ymhlith pobol ifanc erbyn hyn.

“Golau rhybuddio eraill yn fflachio”

“Mae’n beth da bod pobol ifanc yn yfed llai ond dyw hyn ddim yn meddwl eu bod nhw’n ffynnu,” meddai Karen Tyrell o Addaction.

“Mae golau rhybuddio eraill yn fflachio, ac mae’n rhaid i ni gadw llygad ar broblemau cynyddol fel hunan-niweidio, sylweddau ac iechyd meddwl.

“Yn nifer o’r meysydd hyn, dyw pobol ifanc ddim yn cael cymorth. Mae yna lai o lefydd y gallan nhw droi atyn nhw ac yn aml dyw’r help sydd yna ddim yn ddigon da.”

Gwledydd eraill

Lloegr a welodd y gostyngiad mwyaf yn nifer y bobol ifanc sy’n yfed alcohol yn wythnosol.

Roedd bron hanner (50.3%) o fechgyn 15 oed yn yfed yn wythnosol yn 2002, o gymharu a 10% yn 2014.

Roedd mwy na dau o bob pump (43.1%) o ferched ifanc yn yfed yn 2002, ond erbyn 2014 roedd y ffigwr hwnnw wedi gostwng i un o bob deg (8.9%).

Roedd yr Alban yn ail o ran merched ifanc, gyda’r ffigwr yn y wlad honno’n gostwng o 41.1% i 10.7%.