Mae dyn 47 oed wedi cael ei arestio ar ôl i blismon gael ei daro gan gar yn Llangefni ddoe (dydd Mawrth, Medi 25).

Fe ddigwyddidd toc cyn 3yp pan gafodd heddwas a oedd yn ei ddillad ei hun ei daro gan Volkswagon Golf mewn gorsaf betrol ar Heol Glanhwfa.

Fe adawodd y car y safle yn fuan wedi’r digwyddiad, ond fe lwyddodd yr heddlu i ddod o hyd iddo yn ddiweddarach ar Ffordd Penmynydd ger Porthaethwy.

Mae’r dyn 47 oed wedi cael ei arestio ar amheuaeth o achosi niwed corfforol difrifol.

Cafodd yr heddwas ei gludo i’r ysbyty gydag anafiadau difrifol, ond sydd ddim yn peryglu ei fywyd.