Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi newidiadau i’r ffordd y mae iawndal yn cael ei dalu ar gyfer gwartheg cyflo sydd â’r diciáu.

Ar hyn o bryd, mae ffermwyr yn derbyn iawndal am fuwch sydd wedi’i lladd oherwydd TB ar sail yr hyn mae hi’n werth ar y farchnad agored pe bai’n holliach.

Ond yn ôl Llywodraeth Cymru, yn dilyn amheuon bod gwartheg gwag yn cael eu prisio fel pe baen nhw’n cario llo, bydd rhaid i ffermwyr gyflwyno prawf ysgrifenedig o fis Tachwedd ymlaen yn profi bod y fuwch yn feichiog.

Dywed yr Ysgrifennydd dros Faterion Gwledig, Lesley Griffiths, fod tystiolaeth yn awgrymu bod camgymryd gwartheg gwag am rai beichiog yn “dipyn o broblem” ar hyn o bryd.

Y dystiolaeth

Bu’r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA) a’r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) yn casglu tystiolaeth ar y mater hwn dros gyfnod o flwyddyn.

Ar ôl archwilio 7,418 o wartheg marw yr oedd eu perchennog wedi datgan eu bod yn cario llo, maen nhw’n dweud bod 2,817 wedi’u canfod yn wag.

Mae’r amcangyfrif ar gyfer cyfanswm yr iawndal ychwanegol a gafodd ei dalu ar gyfer y rheiny nad oedd yn gyflo yn fwy na £459,000 yn ystod y flwyddyn gyfan, medden nhw wedyn.

Newidiadau

Er mwyn mynd i’r afael â’r broblem, mae Llywodraeth Cymru’n dweud y bydd rhaid i ffermwyr wneud cais am Ddiagnosis o Feichiogrwydd (DF) oddi wrth eu milfeddyg.

Bydd modd cyflwyno’r prawf hwnnw pan fydd y gwartheg yn cael eu prisio, ar yr amod bod y DF wedi cael ei wneud o fewn y tri mis cyn diwrnod y prisio.

“Bydd y newidiadau hyn yn dod i rym o Tachwedd 1 eleni ymlaen,” meddai Lesley Griffiths.

“Hoffwn annog pawb sy’n berchen ar wartheg i ymgyfarwyddo â’r trefniadau hyn cyn iddyn nhw ddod i rym ac, os yw hynny’n briodol, dylen nhw gysylltu â’u Milfeddyg Swyddogol i drefnu Diagnosis o Feichiogrwydd.”