Mae Trenau Arriva Cymru wedi dewis wyth o’u gweithwyr i fynd ar gwrs dysgu Cymraeg yng Nghanolfan Nant Gwrtheyrn.

Mae’r weithred hon yn rhan o ymgyrch y cwmni i “ddiolch” i’w cwsmeriaid wedi pymtheng mlynedd o redeg gwasanaethau trenau yng Nghymru.

Cafodd ei gyhoeddi ddechrau’r flwyddyn mai’r cwmni Keolis/Amey fydd yn gyfrifol am y gwasanaeth am y pymtheng mlynedd nesaf.

Mewn digwyddiad ym Mhontypridd ddechrau’r mis (Medi 7), cafodd Ysgoloriaeth Gymraeg Trenau Arriva Cymru ei lansio, ac fe fydd yn rhedeg tan ddiwedd cyfnod masnachfraint y cwmni ym mis Hydref.

“Parhau i fuddsoddi”

“Bu camgymeriadau a sefyllfaoedd anodd ar hyd y daith, ond rydym wedi dod trwyddyn nhw ac rydym yn gryfach o’r herwydd,” meddai Rheolwr Gyfarwyddwr Trenau Arriva Cymru, Tom Joyner.

“Rydym yn falch ein bod yn gadael rhwydwaith Cymru a’r Gororau mewn sefyllfa gryfach o lawer na phan ddechreuasom yn 2003.

“Mae ein hysgoloriaeth Gymraeg newydd yn dangos ein bod yn falch i barhau i fuddsoddi mewn pobl hyd at ddiwedd ein masnachfraint.”

Yn ôl Trenau Arriva Cymru, maen nhw wedi cludo mwy na 400m o gwsmeriaid ar 4.5m o deithiau ers iddyn nhw gychwyn ar eu gwasanaethau yn 2003.