Bydd £5.7m o arian yr Undeb Ewropeaidd yn cael ei ddefnyddio er mwyn annog pobol ifanc i astudio pynciau gwyddonol.

Nod y prosiect ‘Trio Sci Cymru’, sy’n werth £8.2m, yw cynyddu’r nifer sy’n astudio pynciau fel Gwyddoniaeth, Mathemateg, Peirianneg a Thechnoleg.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn gobeithio gwella’r graddau yn y pynciau hyn, a bydd y prosiect yn annog 5,600 o bobol ifanc ledled Cymru i’w hastudio hyd at lefel TGAU a thu hwnt, medden nhw.

“Ysgogi diddordeb”

“Mae technoleg yn newid yn gynt ac yn gynt, ac mae’n rhaid i Gymru gael gweithlu medrus i fanteisio ar y newidiadau hyn,” meddai’r Ysgrifennydd Cyllid, Mark Drakeford.

“Bydd y buddsoddiad hwn gan yr Undeb Ewropeaidd yn helpu i ysgogi diddordeb yn y pynciau craidd hyn, gan annog disgyblion i ddewis y pynciau, ac fe fydd hynny yn ei dro yn helpu economi Cymru i dyfu.”

Gweithgareddau allgyrsiol

Er mwyn denu pobol ifanc at bynciau gwyddonol, bydd amrywiaeth o weithgareddau allgyrsiol yn cael eu cynnal yn rhan o’r prosiect, gan gynnwys arbrofion ymarferol a sioeau teithiol.

Mae ‘Trio Sci Cymru’ yn cael ei arwain gan Academi Wyddoniaeth Genedlaethol Llywodraeth Cymru, mewn cydweithrediad â’r Sefydliad Ffiseg a phrifysgolion Caerdydd, Abertawe, Aberystwyth a Bangor.

Mae’n cael ei gefnogi gan £5.7m o gyllid yr Undeb Ewropeaidd, a £2.5m gan yr Academi Wyddoniaeth Genedlaethol.