Bydd Carwyn Jones yn cyhoeddi buddsoddiad £6 miliwn yn ddiweddarach, gyda’r nod o “gefnogi” gweithwyr yng Nghymru.

Daw’r swm o Gronfa Bontio UE (Undeb Ewropeaidd) Llafur Cymru, a bydd yn mynd at weithwyr cwmnïau Ford, Toyota ac Airbus.

“Bydd hyn yn rhoi sgiliau newydd i weithwyr Cymru, ac yn eu paratoi ar gyfer dyfodol ansicr,” bydd y Prif Weinidog yn dweud, wrth annerch Cynhadledd Flynyddol y Blaid Lafur.

“Dyma Lywodraeth Lafur Cymru yn gweithredu. Brexit neu beidio, byddwn yn rhoi ein heconomi yn gyntaf, ac yn rhoi ein gweithwyr yn gyntaf.”

“Lladdfa ddiwydiannol”

Wrth annerch cynhadledd ei blaid yn Lerpwl, bydd Carwyn Jones hefyd yn rhybuddio “nad yw Cymru yn medru fforddio Brexit heb gytundeb”, a bod ganddo ddyletswydd i “frwydro” yn erbyn hynny.

“Mi fydd yn arwain at laddfa ddiwydiannol arall,” meddai, “Ac mae ‘na beryg y gallai gweithgynhyrchu soffistigedig ddilyn llwybr y diwydiannau glo a haearn yng Nghymru.”