Dylai Aelodau Seneddol orfod arwyddo llw o wirionedd cyn cael cymryd eu seddau, yn ôl cyn-golwr Cymru, Neville Southall.

Roedd y cyn-bêl-droediwr sydd bellach yn ymgyrchu ar faterion cymdeithasol, ac sydd hefyd wedi datgan ei gefnogaeth i annibyniaeth i Gymru, yn siarad mewn cyfarfod ymylol yng nghynhadledd Llafur yn Lerpwl.

“Mae plant yn cael eu ceryddu os ydyn nhw’n dweud celwydd, ond mae hyn yn cael ei dderbyn gan wleidyddion,” meddai.

“Pe bawn i’n dweud celwydd yn fy swydd, fe fyddwn i’n cael y sac – ond maen nhw’n cael £50,000 yn ychwanegol.

“Fe hoffwn i weld gwleidyddion yn arwyddo llw i ddweud y gwir cyn Cwestiynau i’r Prif Weinidog.”

Roedd hefyd yn galw am drafodaethau gonest ar faterion anodd fel mewnfudo a chyllido’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol.